Lleoliad:
Video confrence via Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 21 Tachwedd 2023
Amser:
09.00 -
09.15
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Lesley Griffiths AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn trafodion Cyfnod 3.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.25pm.
Cadarnhaodd y Llywydd na fydd egwyl cyn dechrau trafodion Cyfnod 3.
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023
· Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cenhadaeth Economaidd: Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach (30 munud)
·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Gweithredu ar HIV - datganiad
cynnydd blynyddol (30 munud) I'w gyhoeddi fel Datganiad Ysgrifenedig
Dydd Mawrth 5 Rhagfyr 2023
· Datganiad gan Weinidog yr Economi: Yr Economi Sylfaenol (30 munud) - aildrefnwyd i eitem 3
· Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi'r Cofrestrau Etholiadol) (Cymru) 2023 (5 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn bwriadu ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i ofyn am estyniad ar gyfer ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor ar weithlu'r diwydiannau creadigol, ac a allai'r ddadl a drefnwyd ar gyfer 13 Rhagfyr gael ei gohirio felly tan y flwyddyn newydd.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i aros am farn y Pwyllgor cyn aildrefnu busnes. Felly, cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 13 Rhagfyr 2023 -
4 Deddfwriaeth
4.1 Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch amserlen y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru)
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a chytunodd ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru).
5 Unrhyw faterion eraill
Cwestiynau’r llefarwyr
Gwnaeth y Llywydd atgoffa’r Rheolwyr Busnes o’r elfen o’r canllawiau ynghylch Cwestiynau’r Llefarwyr sy'n nodi y disgwylir i lefarwyr ddefnyddio eu cwestiynau i ddilyn thema eang, yn dilyn rhai enghreifftiau diweddar lle mae'r cwestiynau a ofynnwyd wedi ymdrin â sawl pwnc ar wahân.
Cynigion heb ddyddiad trafod
Cododd Heledd Fychan Gynigion Heb Ddyddiad Trafod a'r mecanweithiau posibl ar gyfer eu trafod yn y Cyfarfod Llawn.